Roedd yna newid llwyr ar frig y tabl ym Mhencampwriaeth Golff Cymru ddoe, wrth i arweinwyr echdoe lithro’n ôl.
Yn eu plith, roedd y ddau Gymro, Bradley Dredge a Rhys Davies, ond mae gan y ddau obaith o hyd.
Erbyn y diwedd, roedd Dredge dair ergyd yn well na’r safon, tair y tu ôl i’r ddau arweinydd newydd Marcel Siem ac Andrew Dodt.
Ar ddwy ergyd yn well y mae Rhys Davies yn gyfartal gyda’r Sais, Luke Donald, a Colin Montgomerie, capten tîm Cwpan Ryder Ewrop eleni.
Fe lithrodd yr arweinydd tros nos, Chris Wood, yn ôl i un yn well, ond doedd hynny ddim cynddrwg â’r Albanwr Pat Lawrie a gymerodd 11 ergyd ar yr ail.
Llun: Bradley Dredge (Gwifren PA)