Fe fydd gwasanaethau’n cael eu cynnal yn Cumbria dros y Sul er cof am y 12 o bobol a gafodd eu llofruddio gan Derrick Bird.

Erbyn hyn, mae’n ymddangos yn fwy a mwy tebyg mai arian oedd wrth wraidd y lladdfa – eiddigedd at arian a gafodd ei frawd ar ôl eu tad a phryder tros fil treth.

Bellach, mae’r heddlu’n gwybod bod efaill Derrick Bird, David, wedi ei ladd lawer cynharach na phawb arall – yn oriau mân y bore – ac mai cyfreithiwr y teulu oedd yr ail tua hanner awr wedi deg.

Dyna pryd y cafodd yr heddlu eu galw gynta’ ac maen nhw’n mynnu nad oedd unrhyw gyfle ganddyn nhw i atal y lladd a ddilynodd.

Roedden nhw’n ei ddilyn gyda hofrenyddion, cŵn a ffonau symudol ond, erbyn iddyn nhw ei gyrraedd, roedd wedi lladd deg arall ac ef ei hun.

Yr ewyllys

Fe ddaeth yn amlwg bod tad Derrick Bird wedi gadael £25,000 i David Bird a dim i’w ddau fab arall.

Gyrrwr tacsi arall sydd wedi sôn am fil treth Derrick Bird ond mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn cydweithio gyda’r adran Dollau.

Ar ôl ymweld â’r ardal heddiw, fe ddywedodd y Prif Weinidog David Cameron na fydden ni fyth yn deall popeth am y digwyddiad.

Llun: Plismyn yn dangos taith farwol Derrick Bird (Gwifren PA)