Awduron gwobrau Tir na n-Og eleni yw’r rhai ieuenga’ erioed i ennill.
Manon Steffan Ros sy’n cael y wobr am lyfr i blant cynradd a Rhiannon Wyn am y wobr i blant hŷn.
Roedd Menna Lloyd Williams o adran blant Cyngor Llyfrau Cymru wrth ei bodd o weld dwy awdures newydd yn ennill – Manon Ros gyda’i hail nofel i bobol ifanc a Rhiannon Wyn gyda’i chynta’ i blant.
“Mae o’n rhoi dyfodol da i sgrifennu trwy’r Gymraeg,” meddai. “Mae’n ardderchog bod gynnon ni sgwenwyr efo gallu anhygoel i drin geiriau a sgrifennu straeon heriol.
“Ond dydi hynny ddim yn syndod, mae inc yng ngwaed y ddwy ohonyn nhw – Manon yn ferch i’r bardd a’r cyfansoddwr, Steve Eaves, a Rhiannon yn ferch i’r awdur Eirug Wyn. Mae’n argoeli’n wych ar gyfer dyfodol y nofel Gymraeg.”
Fel arfer, fe gafodd enwau’r enillwyr eu cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd ac mae’r ddwy yn ennill £1,000 yr un.
‘Wrth fy modd’ – Manon Ros
Mae Trwy’r Tonnau gan Manon Steffan Ros yn llyfr ar gyfer plant 9-13 oed sy’n dilyn taith anturus Cledwyn, Siân a Gili Dŵ i wlad hudol Crug, sy’n llawn creaduriaid gwahanol.
A hithau wedi ei magu yn Rhiwlas, mae bellach yn byw ym Mhennal, Bro Dysynni, ger Machynlleth. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri ac Abertawe.
“Dwi wrth fy modd yn ’sgwennu i blant, ac mae ennill gwobr Tir na n-Og yn golygu cymaint i mi,” meddai Manon Steffan Ros.
‘Hwb a hyder’
Stori ddigri’ yw Codi Bwganod gan Rhiannon Wyn am ferch o’r enw Erin sydd ag ysbryd cyfeillgar yn ffrind.
Mae Rhiannon Wyn yn enedigol o’r Groeslon, Caernarfon. Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth o Goleg Prifysgol Aberystwyth, mae’n sgriptwraig ar raglenni teledu Rownd a Rownd a Pobol y Cwm.
“Mae derbyn y wobr wedi rhoi hwb a hyder i mi gario ymlaen efo prosiectau unigol,” meddai..