Llyr Gwyn Lewis o Rydychen sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd Ceredigion heddiw.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, cafodd Llyr ei addysg yn Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen cyn graddio o Brifysgol Caerdydd y llynedd yn y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg.

“Rwyf wedi cystadlu yn yr Urdd sawl gwaith ar y llwyfan ac yn y cystadlaethau gwaith cartref, gan gynnwys y fedal lenyddiaeth a’r fedal ddrama; y llynedd roeddwn yn ail yng nghystadleuaeth y goron,” meddai Llyr Gwyn Lewis.

“Rwy’n ei chyfri’n fraint o’r mwyaf i gael ennill cadair mor hardd ac iddi’r fath arwyddocâd. Hoffwn ddiolch o galon i’r rhai fu’n fy nysgu i drin geiriau dros y blynyddoedd, i Mam, Dad a’r teulu am fy annog i ddal ati, ac i Mared am bob cefnogaeth.”

Gruffydd Antur o Ysgol Uwchradd y Berwyn ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, ac mae Gruffudd Owen o Gaerdydd a Dewi Huw Owen o Fangor yn rhannu’r drydedd wobr.

Rhoddwyd y gadair eleni gan deulu’r Hendre er cof am y diweddar Dic Jones.

Roedd 19 wedi cystadlu ond “siomedig oedd safon y gystadleuaeth” meddai’r beirniaid. Roedd pedwar bardd yn y dosbarth cyntaf.

Talodd y beirniaid deyrnged hefyd i’r Bardd Iwan Llwyd, fu farw yn 52 oed yr wythnos diwethaf, enillodd Gadair yr Urdd yn 1980.

Doedd dim teilyngdod yng Nghaerdydd y llynedd.

Llyr Gwyn Lewis

Ar hyn o bryd mae Llyr Gwyn Lewis yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, ac yn bwriadu dychwelyd i Gaerdydd y flwyddyn nesaf i wneud doethuriaeth.

Gwenallt Llwyd Ifan a Fflur Dafydd oedd yn beirniadu heddiw, a thasg y beirdd oed ysgrifennu cerdd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Tonnau’. Meddai’r beirniaid am awdl Llyr:

“Yn sicr mae gan y bardd hwn weledigaeth a dawn, ac mae’n profi hynny trwy gyflwyno awdl unigryw a thrawiadol. O’r darlleniad cyntaf, synhwyrwn fod yma fardd go iawn ar waith… bardd cyffrous a soffistigedig.”