Am bedair blynedd rhwng 2004-08 roedd label recordiau Ciwdod yn rhyddhau senglau gan fandiau mwya’ addawol Cymru.

Nawr mae un gân o bob sengl wedi eu gosod ar albym – Rwy’n Caru Ciwdod – i ddathlu cyfraniad y label at ddatblygiad y Sîn Roc Gymraeg.

Cafodd Derwyddon Dr Gonzo, Yr Ods, Radio Luxembourg a Plant Duw eu blas cyntaf o’r stiwdio recordio gan Ciwdod.

Ond yn wahanol i labeli masnachol fel Sain neu Sony, daw’r arian gan y Llywodraeth, sy’n ystyried meithrin bandiau Cymraeg yn ffordd o gadw’r iaith yn fyw.

Yn 2004 mi roddodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg gytundeb i Cerdd Cymunedol Cymru i feithrin rocars Cymraeg.

“Pan roeddan ni’n dechrau doedd neb yn rhyddhau senglau, y duedd oedd i fandiau Cymraeg ryddhau albyms,” meddai Esyllt Williams o Ciwdod.

“Fe wnaethon ni helpu bandiau ifanc i gael profiad o fynd i’r stiwdio a chael rhyddhau sengl.

“Erbyn hyn mae lot fwy o labeli wedi gweld y budd mewn bandiau ifanc, ac yn rhoi’r amser i’w datblygu nhw.”

Erbyn hyn mae Ciwdod yn canolbwyntio ar ddysgu pobol ifanc sut i rocio, yn cynnal dosbarthiadau drymio a strymio a lleisio a strytio mewn ysgolion.

A’r wythnos hon mae’r ddau ganwr gyfansoddwr Mr Huw a Dan Amor wedi bod yn tiwtora plant ifanc o ardal Aberaeron, yn y gobaith y bydd y band newydd sbon lleol yn medru chwarae yn lansiad Rwy’n Caru Ciwdod ar stondin Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar Faes yr Urdd yfory.

Gweddill y stori yn y Babell Roc, Golwg, Mehefin 3