Bydd Joe Ledley yn cynnal trafodaethau gydag un o gewri pêl droed yr Eidal heddiw wrth iddo ymweld â chlwb Roma.

Roedd chwaraewr rhyngwladol Cymru yn Glasgow ddoe yn cael golwg ar gyfleusterau Celtic a chynnal trafodaethau ynglyn a chytundeb gyda’r clwb.

Ond mae’r Cymro am gadw ei opsiynau’n agored, wrth i sawl clwb arall geisio sicrhau ei lofnod.

Mae gan nifer o glybiau’r Uwch Gynghrair ddiddordeb arwyddo Ledley, gan gynnwys Everton, Stoke, West Ham a Blackburn, ac fe fyddai’n rhaid iddynt dalu iawndal i Gaerdydd.

Ond pe bai Ledley yn arwyddo gyda chlwb o’r tu allan i Loegr, ni fyddai Caerdydd yn cael yr un geiniog amdano.

Mae Joe Ledley eisoes wedi dweud ei fod o’n awyddus i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, ond fe allai Ledley gefnu ar y cyfle i chwarae yng nghystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr gyda Celtic neu Roma.

Ond mae’r Adar Glas yn dal i obeithio y bydd y Cymro’n arwyddo cytundeb newydd gyda nhw er mwyn helpu i wireddu ar eu breuddwyd o chwarae yn yr Uwch Gynghrair.