Cafodd yr heddlu eu galw ym Mhenmachno dros y penwythnos, ar ôl i bobol leol glywed cerddoriaeth yn chwarae’n uchel o gar a meddwl bod ref yn digwydd yno.
Yn ôl papur newydd y Daily Post, ymatebodd Heddlu Gogledd Cymru i gŵyn ynglŷn a ‘rêf’ oedd yn cael ei chynnal mewn coedwig ger y pentref yn Nyffryn Conwy.
Roedd y bobol yn dweud fod cerddoriaeth wedi ei chwarae yn uchel yno drwy gydol y nos.
Ond ar ôl i’r heddlu chwilio’r ardal, daethpwyd o hyd i pobol mewn car yn chwarae cerddoriaeth yn uchel.
Gofynnodd yr heddlu iddyn nhw symud oddi yno.