Mae’r Urdd wedi cadarnhau heddiw fod “problem wedi codi gyda’r dŵr” ar faes Eisteddfod Genedlaethol y mudiad, lai na deuddydd cyn dechrau’r ŵyl.
Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, mae’r broblem yn golygu bod angen “ailstrwythuro ac ail osod y system dŵr”.
Mae Golwg360 yn deall fod problem wedi codi gyda glendid y pibellau sy’n cario dŵr o’r prif gyflenwad i’r Maes. Y gobaith yw y bydd ailosod pibellau newydd yn datrys y broblem.
“Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac yr ydym mewn trafodaethau ac yn cydweithio gyda’r awdurdodau perthnasol,” meddai Aled Siôn.
“Mae pob safle Eisteddfod’n unigryw, ac yn naturiol weithiau mae’n ofynnol i ni addasu ein gweithdrefnau fel bo’r angen.”
‘Cymryd samplau’
Fe ddywedodd Siân Rogerson ar ran Dŵr Cymru wrth Golwg360 “fod y pibellau dŵr ar y safle wedi’u hadnewyddu” a bod Dŵr Cymru wedi bod yn cymryd “samplau ansawdd dwr ar y safle heddiw”.
Fe fydden nhw’n cael canlyniadau’r profion ansawdd dŵr yfory am bedwar y prynhawn. Roedd Siân Rogerson yn obeithiol am ganlyniadau da.
“Rydan ni’n disgwyl i’r canlyniadau fod yn iawn gan ein bod wedi adnewyddu’r pibellau,” meddai.
Llun: Trafod y broblem ar y Maes