Mae’n ymddangos fod gweithwyr a oedd yn tyllu maes eisteddfod yr Urdd eleni wedi darganfod gweddillion canol oesol.

Roedd gweithwyr yn gweithio ar faes yr Eisteddfod yn Llanerchaeron pan ddaethon nhw o hyd i hen olion pentrefan posib.

Mae’r Urdd wedi cadarnhau na fyddan nhw’n gosod peipiau yn y rhan penodol hwn o’r maes ar gyfer prifwyl ieuenctid y mudiad a fydd yn dechrau 31 Mai.