Dyw’r Blaid Geidwadol ddim eisiau i’r AS newydd, Alun Cairns, roi’r gorau i’w sedd yn y Cynulliad.

Fe wnaeth y blaid gyhoeddiad heddiw’n dweud bod eu bwrdd rheoli wedi gwrthod ei gais i ymddiswyddo o sedd restr tros Orllewin De Cymru.

Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn gwrthod rhoi sylw pellach – arwydd o’r ffaith ei fod yn benderfyniad dadleuol.

Mae’r blaid wedi gofyn i Alun Cairns aros yn y sedd restr am y flwyddyn sy’n weddill cyn etholiadau nesa’r Cynulliad.

Anhapus

Roedd yna ddyfalu y bydden nhw’n anhapus gweld y sedd yn mynd i’r nesa’ ar eu rhestr – y cynghorydd asgell dde, Chris Smart, sydd wedi rhoi ei droed ynddi sawl gwaith ac wedi cael sylw anffafriol fwy nag unwaith yn y wasg.

Mae’r Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus wedi dweud na ddylai neb fod yn dal seddi mewn dwy senedd wahanol.

Roedd Alun Cairns wedi cynnig ymddiswyddo’n union ar ôl cael ei ethol yn AS newydd Bro Morgannwg – fe ddywedodd ei bod wedi bod yn fwriad ganddo erioed i wneud hynny

Mewn datganiad heddiw, fe ddywedodd ei fod yn derbyn penderfyniad y blaid. Ond mae Chris Smart  yn feirnidol, gan ddweud fod etholwyr gorllewin de Cymru’n cael cam.