Fe fydd y bocsiwr o Abertawe, Ricky Owen, yn ymladd er cof am ei rieni pan fydd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Prizefighter yn Llundain heno.

Fe fydd Owen yn un o dri Chymro sy’n cystadlu yn York Hall yn Bethnall Green, ac mae’n credu mai ef fydd yn llwyddo, gan gadw ei record ddiguro.

Ond mae ei 11 buddugoliaeth wedi eu gwasgaru tros chwe blynedd, a hynny’n rhannol, meddai, oherwydd colledion personol.

“Bu farw fy nhad mis diwethaf a chollais fy mam gwpl o flynyddoedd yn ôl, felly rwy’n awyddus i’w gwneud nhw’n falch o honnai,” meddai Ricky Owen.

“Fe fyddai ennill Prizefighter yn golygu llawer i fi – does dim byd gyda fi i’w golli. Mae’n gyfle da i mi brofi fy hun ar ôl dim ond dwy ornest mewn dwy flynedd.”

Bydd y ddau Gymro arall, Robbie Turley a Jamie Arthur, yn wynebu ei gilydd yn rownd gyntaf y gystadleuaeth.

Pe bai Ricky Owen yn llwyddo i faeddu Gavin Reid yn ei ornest gyntaf, fe fyddai’n wynebu’r enillydd yr ornest Gymreig yn y rownd gyn derfynol.

Llun: Ricky Owen (Gwefan Prizefighter)