Mae cyn gynorthwyydd Gordon Brown o fewn un enwebiad i allu sefyll am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Erbyn dechrau brynhawn heddiw, roedd Ed Balls wedi ei gefnogi gan 32 o ASau – un yn brin o’r ffigwr sydd ei angen i roi ei enw ar y papur pleidleisio.
Mae’r cyn Ysgrifennydd Plant wedi gosod ei hun ychydig i’r chwith gan sgrifennu erthygl ym mhapur y Tribune a galw am weithio o’r gwaelod i fyny a chadw’r cwlwm agos gyda’r undebau.
Y cyn Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, sydd â mwya’ o enwebiadau, gyda 54, a’i frawd Ed, y cyn Ysgrifennydd Ynni, yn ail gyda 45.
ASau Cymru’n rhannu
Ymhlith ASau o Gymru, mae’r ddau’n hollol gyfartal ar wyth enwebiad yr un, gydag Ed Balls a’r ymgeisydd asgell chwith, John McDonnell yn denu un enwebiad Cymreig yr un.
Dim ond chwe enwebiad sydd gan John McDonnell i gyd – pump yn fwy na’r ymgeisydd arall ar y chwith, Diane Abbott. Mae’r cyn Ysgrifennydd Iechyd, Andy Burnham, hefyd yn brin, gyda dim ond 17 o enwebiadau.
Mae Ed Miliband ar ei ffordd i Gaerdydd heno – y bore yma, fe roddodd araith yn cefnogi’r alwad am ‘Gyflog Byw’ … gosod isafswm cyflog o £7.16 yr awr i bawb.
Dewis ASau Cymru
Dyma fel y mae ASau Cymru’n rhannu ar hyn o bryd:
David Miliband – Ann Clwyd, Christopher Evans, Paul Flynn, David Hanson, Jessica Morden, Chris Ruane, Nick Smith, Mark Tami,
Ed Miliband – Wayne David, Peter Hain, Susan Jones, Ian Lucas, Madeleine Moon, Paul Murphy, Albert Owen, Owen Smith.
Ed Balls – Kevin Brennan
John McDonnell – Dai Havard
Llun: Ed Miliband yn ymgyrchu heddiw (Gwifren PA)