Rhiannon Michael sy’n gofyn pam bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i Alun Cairns aros yn ei sedd…
Addawodd Alun Cairns y byddai’n ymddiswyddo fel AC pe bai’n cael ei ethol fel AS. Ar Fai 6 ennillodd yr etholiad i gynrychioli Bro Morgannwg ar ran y Ceidwadwyr. Doedd ei blaid ddim yn hoff o’r syniad o’i golli o’r Cynulliad am mai AC rhestr yw Cairnsy, ac yn wahanol i pan fydd AC etholaeth yn ymddiswyddo, does dim is-etholiad, mae’r ail ar y rhestr ranbarthol yn cymeryd y sedd yn awtomatig.
Oherwydd ei gefndir lliwgar, doedd y Ceidwadwyr ddim am i’r ail ar ei rhestr yn rhanbarth Gorllewin De Cymru -Chris Smart -gael y swydd. Dim syndod felly bod pwyllgor rheoli’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn i Alun Cairns i aros fel AC, ar waethaf ei swydd newydd yn Llundain. Dyma’r datganiad gan lefarydd ar ran y Bwrdd Rheoli:
“The Board has considered Alun Cairns’ offer to resign as the Assembly Member for South Wales West and has resolved to ask Alun to carry on in his role until the next Assembly election. No further comment will be made on this matter.”
A dyma ymateb Alun Cairns i’r sefyllfa, unwaith eto gan lefarydd:
“Alun has respectfully accepted the Board’s decision and has previously advised the Assembly’s Fees Office that he will not be taking a salary for his work as an AM. No further comment will be made on this matter.”
Bu cryn holi ar y mater yma yn sesiwn friffio’r Ceidwadwyr ddydd Mawrth. Y cwestiwn mwyaf diddorol oedd pam fod Alun Cairns wedi cynnig ei ymddiswyddiad i’r Bwrdd Rheoli yn hytrach nag i’r Comisiwn. Fu Mohammed Ashgar ddim mor foesgar ag egluro’i benderfyniad wrth Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru pan groesodd y llawr i ymuno â’r Ceidwadwyr. Wrth reswm byddai’r Pwyllgor Gwaith wedi mynnu ei fod yn ymddiswyddo, gan mai sedd restr Plaid Cymru yw sedd Oscar. Dim rhyfedd fod y ddau ddatganiad yn dweud na fyddan nhw’n cynnig sylwadau pellach ar y mater.