Mae o leia’ 20 o bobol wedi cael eu lladd yn nwyrain Pacistan ar ôl i ddynion arfog ymosod ar ddau fosg.

Mae yna adroddiadau bod cannoedd o bobol yn cael eu dal yn wystlon gan y terfysgwyr yn ninas Lahore.

Roedd y dynion arfog wedi targedu sect Moslemaidd o’r enw Ahmadi, sydd wedi dioddef blynyddoedd o ragfarn ac ymosodiadau gan radicaliaid Sunni.

Roedd un o’r ymosodwyr wedi dringo lan i do un o’r mosgiau gan ddechrau saethu a thaflu grenadau.

Dywedodd un heddwas bod nifer o ddynion arfog yn dal yn y mosgiau ac yn dal addolwyr yn gaeth.

Mae rhai Moslemiaid eithafol yn credu bod cyfiawnhad tros ladd pobol sydd heb fod yn Foslemiaid, neu sy’n perthyn i sectau eraill.

Mae’r dilynwyr Ahmad yn galw eu hunain yn Fwslemiaid ond maen nhw’n credu bod eu sylfaenydd nhw wedi datgan ei hun yn broffwyd ganrifoedd ar ôl Muhammad. Yn ôl Moslemiaid, prif ffrwd, Muhammad oedd y proffwyd olaf.