Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw llygad ar lefelau afonydd Cymru ar ôl gaeaf a gwanwyn anarferol o sych.
Maen nhw’n pryderu y bydd afonydd bach yn diodde’n arbennig os yw’r sychder yn parhau ac fe llai hynny achosi problemau heblaw prinder dŵr.
Mae perchennog busnes pysgota hefyd wedi mynegi “pryder mawr” gan ddweud fod peryg i’r diwydiant pysgota afon a thwristiaeth.
‘Neb yn pysgota’
Yn ôl Renee Foxon sy’n pysgota ei hun ac yn berchen ar siop bysgota’r Fox and Tackle yn Llanelwy mae’r prinder glaw eleni’n achosi gofid.
“Mae yna wastad fwy o law yn y gwanwyn na’r hyn rydan ni wedi’i gael eleni,” meddai wrth Golwg360. “Mae’n mynd yn waeth ac yn waeth bob blwyddyn.
“Does neb yn trafferthu mynd i’n hafonydd lleol ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim wedi bod yn cael pobol yn bwcio i bysgota yn yr afonydd.”
Yn ogystal â’r broblem i’r pysgotwyr ar hyn o bryd, mae yna oblygiadau tymor hir, meddai, gan fod afonydd isel yn ei gwneud hi’n anos i bysgod ddodwy ac i’r wyau ddeor.
“Does dim grym na symudiad i glirio gwely’r afon ac mae hyn yn golygu bod rhaid i wyau pysgod orwedd ar y gwely gydag algae a llysnafedd. Dydi pethau ddim yn edrych yn dda.”
Poeni am afonydd bach
Er nad yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn poeni am y tywydd sych a lefelau’r afonydd mawr ar hyn o bryd, fe fyddai rhagor o sychder yn achosi problemau i’r amgylchedd, meddai llefarydd.
“Dydyn ni ddim yn poeni am yr afonydd mawr fel Dyfrdwy a Chonwy oherwydd bod system cronfeydd dŵr i gynnal y lefelau,” meddai Curig Jones, cyn dweud eu bod nhw’n poeni am afonydd llai.
“Y pryder yw os ydi’r sefyllfa’n parhau fel hyn, y bydd lefelau’n mynd yn is a phroblemau gyda physgod a phryfaid.” Fe fyddai sbwriel hefyd yn fwy o broblem, meddai.
Fe ddywedodd eu bod nhw’n “monitro’r sefyllfa’n agos iawn” ar hyn o bryd. Maen nhw hefyd yn annog pobl Cymru i “fod yn ofalus” wrth ddefnyddio dŵr.
“”Mae terfyn ar faint o ddŵr sydd ac mae bod y ofalus gyda’n defnydd ohono’n beth da.”
Llun: Afon Teifi’n isel