Fe fu datblygiadau mewn dau ymchwiliad i lofruddiaethau posib mewn gwahanol rannau o Gymru.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi enwi’r ddynes a gafwyd yn farw yn Aberdaugleddau ac mae Heddlu’r De wedi rhydau dyn ar fechnïaeth ar ôl ei holi am farwolaeth amheus a ddigwyddodd 17 mlynedd yn ôl.

Cyhoeddi enw yn Aberdaugleddau

Deborah ‘Debbie’ Louise Rowe, 50 oed, oedd enw’r fenyw y daethpwyd o hyd i’w chorff nos Fercher yn ei thŷ yn ardal Stryd Dartmouth yn Aberdaugleddau.

Mae dyn yn y ddalfa ar hyn o bryd yn cael ei holi gan yr heddlu ar ôl ei arestio ynglŷn â’r digwyddiad.

Marwolaeth amheus Penarth

Ym Mhenarth, mae dyn 48 oed wedi cael ei ryddhau ar ôl cael ei holi ynghylch marwolaeth dyn o’r enw Stephan Hinc yn 1993.

Tan yn ddiweddar, y gred oedd ei fod wedi marw’n naturiol ond fe benderfynodd yr heddlu ymchwilio ar ôl cael gwybodaeth newydd.

Mae teulu Stephan Hinc wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod yn cefnogi ymchwiliad yr heddlu ond wedi “cael sioc” oherwydd y datblygiadau diweddara’.

Maen nhw’n cael cefnogaeth un o swyddogion cyswllt teuluol yr heddlu.