Fe fu cannoedd o bobol yn ciwio tu allan i siôp Apple yn Llundain er mwyn cael eu dwylo ar y ddyfais ‘angenrheidiol’ ddiweddaraf, sef yr iPad.
Roedd pobl yn ciwio i lawr Stryd Regent yng nghanol Llundain ers prynhawn ddoe i gael prynu’r cyfrifiadur sgrîn-gyffwrdd sy’n cyfuno elfennau cyfathrebu gyda chyfleuster i ddarllen llyfrau.
Fe gadarnhaodd Cyngor Llyfrau Cymru bod cyhoeddwyr Cymraeg a Saesneg yma yn dechrau edrych o ddifri’ ar ddefnyddio’r dechnoleg newydd.
Mae Gwasg y Lolfa eisoes wedi cyhoeddi rhai e-lyfrau – gan gynnwys Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd sy’n ymosod ar y broses o droi llyfrau’n ddigidol.
“Ryden ni eisoes wedi dechrau trafod efo’r diwydiant,” meddai Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, Elwyn Jones. “Mi fyddwn ni’n ceisio gwneud yn siŵr bod y cyhoeddwyr, y Cyngor a’r siopau i gyd yn gallu manteisio ar y dechnoleg newydd.”
Ymhlith y pryderon, meddai, roedd cywirdeb wrth symud o un llwyfan i un arall a gwneud yn siŵr nad oedd prynwyr yn gallu dosbarthu’r llyfrau am ddim i bobol eraill.
Y cynta’ i brynu
Fe agorodd drysau siop Apple am 8 y bore heddiw a’r cyntaf i brynu’r iPad oedd Jake Lee, 17 oed o Theydon Bois yn Essex – roedd wedi dechrau ciwio am hanner dydd ddoe gyda thri ffrind.
“Rwy’n methu aros i ddechrau defnyddio’r iPad. Mae’n deimlad hyfryd – rwy’n methu esbonio’r peth,” meddai Jake Lee.
Roedd yr actor, Stephen Fry hefyd yn un o’r rhai cyntaf i brynu’r iPad heddiw. “Mae’n wych i weld hyn. Mae’n achlysur rhyfeddol. Does dim byd tebyg wedi bod,” meddai yntau.
Y cefndir
Fe fu’n rhaid gohirio lansio’r iPad yng ngwledydd Prydain oherwydd ei boblogrwydd yn yr Unol Daleithiau.
Yn ogystal â darllen llyfrau, mae modd defnyddio’r iPad i anfon e-byst, tynnu lluniau a chwarae gemau.
Ddoe, fe gyhoeddwyd mai Apple yw cwmni cyfrifiadurol mwya’r byd – oherwydd llwyddiant ei ddyfeisiadau diweddara’, yr iPod, yr iPhone ac, yn awr, yr iPad.
Llun: Jake Lee, y cynta’ i brynu’r i-Pad