Mae prop y Gweilch, Craig Mitchell, wedi cael ei ychwanegu at garfan Cymru i gymryd lle Gethin Jenkins sydd wedi brifo.
Bu’n rhaid i Jenkins dynnu’n ôl o’r gemau yn erbyn De Affrica a Seland Newydd ar ôl anafu ei goes yn rownd derfynol Cwpan Amlin dros y Sul.
Mae Mitchell wedi ennill tri chap dros ei wlad ac roedd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi’i gynnwys ar y rhestr chwaraewyr wrth gefn. Mae blaenwr y Gleision, Scott Andrews, wedi cael ei ychwanegu at y rhestr honno yn lle Mitchell.
McBryde yn hyderus
“Mae Craig yn ymwybodol o’r drefn ryngwladol ac mae wedi bod yn ymarfer efo’r garfan trwy’r wythnos,” meddai hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde.
“Mi fydd yn cyfro ochr Adam Jones o’r sgrym ac mae gan Paul James a John Yapp brofiad o chwarae ar ddwy ochr y sgrym. Felly dw i’n credu bod gynnon ni gydbwysedd da.
“Mi ddylai’r rheng flaen bod yn uned brofiadol efo Matthew Rees ac Adam Jones. Ond fydd y Springboks ddim yn brin o brofiad chwaith,” ychwanegodd McBryde.
Y daith
Bydd Cymru’n wynebu De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm ar 5 Mehefin cyn teithio i wynebu’r Crysau Duon yn Dunedin ar 19 Mehefin ac eto yn Hamilton ar 26 Mehefin.
Bydd disgwyl i Warren Gatland enwi ei dîm i wynebu De Affrica ddydd Mawrth nesaf.
Llun: Craig Mitchell (Gwefan Cymru)