Fe ddefnyddiodd myfyriwr yr enw “the crossbow cannibal” wrth iddo ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio tair gwraig yn Bradford.
Roedd yna ebychiadau yn y llys wrth iddo ddefnyddio’r llys enw – ymhlith y dorf, roedd aelodau o deuluoedd y tair menyw.
Mae Stephen Griffiths, 40 oed, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Suzanne Blamires, Shelley Armitage a Susan Rushworth – y tair wedi diflannu yn ardal Bradford dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn Llys Ynadon Bradford, fe ofynnwyd i Stephen Griffiths ddweud beth oedd ei enw. Ei ateb oedd “the crossbow cannibal”.
Llun artist o Stephen Griffiths
Y cyhuddiadau
Yn ystod y gwrandawiad tri munud fe ddarllenodd clerc y llys y cyhuddiadau:
• Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Suzanne Blamires rhwng 20 Mai a 25 Mai 2010.
• Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Susan Rushworth rhwng 22 Mehefin 2009 a 25 Mai 2010.
• Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Shelley Armitage rhwng 25 Ebrill a 25 Mai eleni.
Fe ddaethpwyd o hyd i weddillion corff Suzanne Blamires mewn bag mewn afon ynghynt yr wythnos yma ond mae cyrff y ddwy arall ar goll. Roedd y tair yn weithwyr rhyw.
Mae Stephen Griffiths yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn bydd yn dychwelyd i’r llys prynhawn yma.
Cefndir
Doedd neb wedi gweld Suzanne Blamires ers dydd Gwener yr wythnos ddiwetha’ tra bod
Shelley Armitage wedi bod ar goll ers 26 Ebrill eleni a Susan Rushworth ers 22 Mehefin y llynedd.
Cafodd Stephen Griffiths ei arestio dydd Llun diwethaf yn ei gartref yn agos at ardal olau coch Bradford. Mae’n gwneud doethuriaeth mewn troseddeg ym Mhrifysgol Bradford.