Bydd chwaraewr-reolwr presennol y Rhyl, Greg Strong, yn parhau wrth y llyw y tymor nesa’ – er na fydd y clwb yn Uwch Gynghrair Cymru.
Fe ddaeth yn amlwg ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd am dair blynedd wrth i’r clwb ddechrau chwarae yn y Cymru Alliance.
Er eu bod wedi gorffen yn chweched yn yr Uwch Gynghrair y tymor yma, fyddan nhw ddim ymhlith y deg sy’n cael aros yn yr adran – oherwydd eu sefyllfa ariannol.
“Mae Greg wedi bod yn chwaraewr a rheolwr gwych i’r Rhyl, ac mae ei ymroddiad i’r clwb dros y tymor diwethaf wedi bod yn eithriadol,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Dave Milner, sy’n gadael y swydd honno ar ôl blwyddyn.
Digwood yn ôl
Fe fydd ei ragflaenydd, Jamie Digwood, yn dychwelyd i’w hen swydd ac, yn ôl Dave Milner, roedd yn fodlon iawn gyda hynny.
“Mae’r deg mlynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod euraidd i’r Rhyl”, meddai Dave Milner. “Er gwaetha’r problemau dros y tymor diwethaf, rwy’n credu gallwn ni ddechrau ar ddegawd lwyddiannus arall os bydd pawb yn cyd-dynnu ar y cae ac oddi arno.
“Rwy’n hapus iawn bod Jamie yn dychwelyd i’r clwb fel rheolwr cyfarwyddwr ar ôl blwyddyn i ffwrdd. Fe fydd ei brofiad a’i gysylltiadau o fewn y gêm yn help mawr.”
Bydd y Rhyl yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn â’u cynlluniau ar gyfer carfan y clwb y tymor nesaf yn y dyfodol agos.