Mae pedwar Cymro wedi cael eu dewis yn Nhîm y Flwyddyn Cynghrair Magners eleni.
Mae’r 15 yn cynnwys pedwar o ranbarth y Gweilch – un yn fwy na Leinster, sy’n eu hwynebu yn y gêm i gipio’r bencampwriaeth dros y Sul.
Cymry yw’r cyfan o’r rheng flaen gyda Gethin Jenkins ac Adam Jones wedi cael eu dewis yn bropiau gorau’r tymor a chwaraewr y Scarlets, Ken Owens, yn safle’r bachwr.
Mae’r chwaraewr amryddawn y Gweilch, James Hook, wedi cael ei enwi ymysg y cefnwyr hefyd.
Fe gafodd tri chwaraewr arall o’r rhanbarthau Cymreig eu cynnwys yn y tîm, sef cefnwr y Gleision, Ben Blair, asgellwr y Gweilch, Tommy Bowe a blaenasgellwr y Gweilch, Jerry Collins.
Y Dreigiau oedd yr unig ranbarth Cymreig i fethu â chael ei gynnwys.
Tîm y Flwyddyn Cynghrair Magners
15 Ben Blair- Gleision
14 Tommy Bowe- Gweilch
13 Brian O’Driscoll- Leinster
12 James Hook- Gweilch
11 Tim Visser- Caeredin
10 Dan Parks- Glasgow
9 Tomas O’Leary- Munster
1 Gethin Jenkins- Gleision
2 Ken Owens- Scarlets
3 Adam Jones Gweilch
4 Leo Cullen- Leinster
5 Ali Kellock- Glasgow
6 Jerry Collins- Gweilch
7 John Barclay- Glasgow
8 Jamie Heaslip- Leinster