Mae corff ymchwil pwysig wedi cefnogi’r alwad am refferendwm buan yng Nghymru ac am ddiwygio’r ffordd y mae arian yn cael ei rannu o Lundain.
Mae’r drefn yng Nghymru eisoes yn gwegian a fydd hi ddim yn gallu dal straen y cyfnod nesa’, meddai’r IPPR, y Sefydliad Ymchwil Polisi Gwleidyddiaeth.
Mae’n dweud y bydd y cyfnod nesa’n brawf anodd i ddatganoli gyda straen gwleidyddol ac economaidd.
Straen anferth
Hyd yn hyn, meddai’r Sefydliad mewn adroddiad mawr newydd, mae datganoli wedi bod yn gymharol hawdd gyda Llafur mewn grym yn Llundain a Chaerdydd a’r sefyllfa ariannol yn gymharol garedig.
Ond fe fydd y cyfnod nesa’n gosod straen anferth, meddai’r IPPR, gyda’r llywodraeth glymblaid newydd heb gefnogaeth gref yng Nghymru nac yn arbennig yn yr Alban.
Mae’r adroddiad, gan nifer o arbenigwyr gwleidyddol, yn galw am i’r drefn o rannu arian o Lundain fod yn fwy agored a chlir ac, yn y pen draw, am ddiwygio Fformiwla Barnett, sy’n penderfynu ar y symiau gwahanol.
Refferendwm – ar frys
Mae angen gweithredu’n gyflym i alw refferendwm ar bwerau pellach yng Nghymru hefyd, meddai. “Mae’r model presennol ar gyfer datganoli yng Nghymru eisoes yn gwegian,” meddai, “a fydd e ddim yn gallu dal straen y gwahaniaethau gwleidyddol sy’n bod bellach.
Fe fydd ‘agenda parch’ rhwng y Llywodraeth yn Llundain a Chaerdydd, Caeredin a Belffast yn hanfodol, meddai’r IPPR, gyda’r glymblaid newydd yn gorfod cydnabod hawl y gwledydd datganoledig i ddilyn trywydd gwahanol.
Mae’n annog rhagor o drafodaethau rhwng y llywodraethau gwahanol ac, yn ôl un o’r arbenigwyr, Alan Trench, fe fydd rhaid i Lundain weithredu “gyda gofal mawr”.
Rhybuddio rhag adwaith o Loegr
Ar y llaw arall, mae’n rhybuddio y gallai ildio gormod i’r tair gwlad lai arwain at ddrwgdeimlad yn Lloegr a phroblemau i’r Prif Weinidog.
“Efallai y bydd oedi gyda thoriadau gwario yn ennill cyfeillion i David Cameron yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ond fe allai greu adwaith yn Lloegr,” meddai Cyfarwyddwr Cysylltiedig yr IPPR, Guy Lodge.
“Fe fyddai hynny’n arbennig o wir yn ardaloedd tlotach Lloegr sydd eisoes yn edrych gydag eiddigedd ar yr arian sy’n mynd i’r gwledydd datganoledig.”