Mae dau Gymro’n arwain y ffordd yng nghystadleuaeth golff Meistri Madrid yn Real Sociedad.

Mae Rhys Davies a Jamie Donaldson yn rhannu’r safle cyntaf gyd’r Sais Luke Donald yn dilyn rownd agoriadol o 65 yr un.

Dyw Donaldson ddim wedi ennill erioed mewn 200 cystadleuaeth ond fe enillodd Davies ei deitl cyntaf ym Moroco ym mis Mawrth.

Mae hefyd wedi ennill ei le ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau mis nesaf.

Mae’r Cymro yn gobeithio am lwyddiant pellach yn Sbaen er mwy cryfhau ei obeithion o chwarae yn y Cwpan Ryder yng Nghasnewydd ym mis Hydref.

“Bydden ni’n hoffi ennill yr wythnos yma, ond dw i ddim yn mynd i roi’r cart o flaen y ceffyl,” meddai.

Bydd Rhys Davies hefyd yn awyddus i ddangos ei ddoniau ym Mhencampwriaeth Agored Cymru yn y Celtic Manor yr wythnos nesaf wrth i gapten Ewrop, Colin Montgomerie, ystyried ei dîm ar gyfer y Cwpan Ryder.