Bydd arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn mynd yn ôl i Gwlff Mecsico heddiw ynghanol beirniadaeth am y methiant i atal y trychineb olew yno.

Mae ffynnon yno wedi bod yn gollwng olew ers pum wythnos erbyn hyn gyda chwmni BP bellach yn ceisio pwmpio mwd i mewn i’r bibell er mwyn atal y llif.

Mae llawer yn beirniadu’r Arlywydd am y ffordd mae ef wedi delio gyda’r argyfwng, gyda chymariaethau’n cael ei wneud gyda rheolaeth George W Bush o drychineb Corwynt Katrina yn 2005.

Mae Barack Obama wedi mynnu mai ef erbyn hyn sy’n rheoli’r ymdrechion i atal olew rhag gollwng i’r môr ac y bydd BP yn cael eu galw i gyfri’ am y difrod.

Cymryd cyfrifoldeb

“Rwy’n cymryd cyfrifoldeb – fy swydd i i’w gwneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i atal y llif,” meddai Barack Obama.

Dywedodd mai gan BP yr oedd yr arbenigedd i atal y llif ond mae wedi cyhuddo’r cwmni o guddio gwybodaeth hefyd. Yn ôl rhai, mae dwywaith neu bedair gwaith mwy o olew wedi gollwng i’r môr nag yr oedd y cwmni’n cyfadde’.

Mae hefyd wedi gwahardd unrhyw ddatblygiadau newydd i dyllu am olew yn ddwfn o dan y môr ac yn dweud bod rhaid rhoi pen ar y berthynas “gyfforddus” rhwng cwmnïau olew ac asiantaethau’r Llywodraeth.

Mae BP wedi dweud y gallai fod yn hwyr heddiw neu dros y penwythnos cyn gwybod a yw’r ymdrechion diweddara’n llwyddo i rwystro’r olew.

Y trychineb gwaetha’

Mae amcangyfrif fod o leiaf 18 miliwn o alwyni eisoes wedi gollwng i’r môr ers i lwyfan olew Deepwater Horizon ffrwydro ar 20 Ebrill gan ladd 11 o bobol.

Mae hyn lawer gwaeth na’r trychineb gwaethaf cyn hyn – yn 1989 yn Alaska pan gafodd 11 miliwn o alwyni o olew eu gollwng i’r môr.

Mae’r olew wedi cyrraedd arfordir yr Unol Daleithiau, ac wedi dechrau llygru gwernydd yn nhalaith Louisiana, gan effeithio ar fywyd gwyllt yno.