Mae’r nifer sydd wedi marw yn ystod y gwrthdaro yn Jamaica wedi codi i 73 wrth i’r awdurdodau barhau chwilio am un o benaethiaid y fasnach gyffuriau yno.
Mae pennaeth mudiad dyngarol yn yr ardal wedi rhybuddio y bydd y ffigwr yn codi eto.
Mae’r awdurdodau’n ceisio dod o hyd i Christopher “Dudus” Coke sydd wedi ei gyhuddo yn yr Unol Daleithiau o ddelio mewn cyffuriau.
Mae’n cael ei ystyried yn un o benaethiaid mwyaf peryglus y fasnach gyffuriau ac yn rheoli rhannau o brifddinas yr ynys, Kingston.
Mae’r ymladd yn ardal Tivoli Gardens wedi parhau am bedwar diwrnod, rhwng milwyr a heddlu ar un ochr a dynion arfog ar y llall. Ond does dim sôn o Christopher Coke.
Mae’r awdurdodau’n dweud eu bod wedi dod o hyd i swyddfeydd Christopher Coke ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi manylion o’r hyn oedd yno.
Disgwyl rhagor o gyrff
Dywedodd Dirprwy Bennaeth Heddlu Kingston, Glenmore Hines, bod milwyr a heddweision wedi dod o hyd i 73 o gyrff pobol gyffredin yn yr ardal.
Mae Cyfarwyddwr y Groes Goch yn Jamaica, Jaslin Salmon, yn dweud ei fod yn disgwyl i nifer y meirw i godi eto.
Fe ddywedodd Prif Weinidog Jamaica, Bruce Golding ei fod yn benderfynol o glirio’r troseddwyr o’r strydoedd ac fe fynegodd dristwch bod pobol wedi eu lladd.
Mae mwy na 500 o bobol wedi cael eu harestio ynglŷn â’r ymladd gyda’r mwyafrif yn dod o ardal Tivoli Gardens, etholaeth y Prif Weinidog ei hun.
Y cefndir
Mae’r gwrthbleidiau’n honni bod cysylltiadau rhwng y Llywodraeth a Christopher Coke a’u bod yn defnyddio’i gefnogwyr ef i godi ofn ar bobol pan fydd etholiadau.
Roedd yr Unol Daleithiau wedi gofyn am estraddodi’r barwn cyffuriau ers rhai misoedd a Bruce Golding sy’n cael y bai am oedi tros hynny.
Ond, ddydd Sul, fe gyhoeddodd stad o argyfwng a symud yn erbyn Christopher Coke a’i gefnogwyr. Erbyn hynny, roedden nhw wedi cymryd camau i amddiffyn eu cadarnle.
Mae Tivoli Gardens yn un o nifer o ghettos – neu ‘garrisons’ – yn Kingston. Ymhlith y gweddill, mae Trenchtown, yr ardal lle y cododd Bob Marley a’r diwylliant reggae.