Gwrthryfelwyr comiwnyddol sy’n cael y bai am achosi damwain trên sydd wedi lladd o leia’ 65 o bobol ac anafu 200 arall yn India.

Mae’n ymddangos bod trên gyda theithwyr arno wedi cael ei fwrw oddi ar y cledrau gan fom ac yna wedi ei daro gan drên nwyddau.

Roedd y trên teithwyr wedi gadael dinas Calcutta a theithio tua 90 milltir i’r gorllewin pan ddigwyddodd y ddamwain.

Yn ôl yr heddlu lleol, roedd ffrwydrad wedi bod a rhan o’r trac wedi ei ddinistrio hefyd, gan daflu 13 o gerbydau oddi ar y cledrau. Fe drawodd y trên nwyddau yn erbyn tri o’r rheiny.

Y cefndir

Grŵp Maoaidd o’r enw’r Naxalites sy’n cael y bai – fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhalaith Gorllewin Bengal lle cafodd y mudiad ei sefydlu tua 40 mlynedd yn ôl.

Maen nhw’n dweud eu bod yn ymgyrchu tros chwarae teg i bobol dlawd cefn gwlad ac, yn ôl Llywodraeth India, mae ganddyn nhw bresenoldeb mewn sawl rhan o’r wlad, gan gynnwys ‘Coridor Coch’ o daleithiau yn y dwyrain.

Yr amcangyfri’ yw bod gan y grŵp rhwng 10,000 a 20,000 o gefnogwyr gweithredol ac fe ddywedodd Prif Weinidog India mai nhw oedd y bygythiad mwya’ i ddiogelwch y wlad.

Roedd y Naxalites wedi galw am streic gyffredinol heddiw a nhw oedd yn gyfrifol am ymosodiad ar fws ynghynt y mis yma, pan gafodd 31 o bobol eu lladd.

Llun: Map yn dangos y ‘Coridor Coch’ (CC3.0)