Fe fu cynnydd yn nifer y traethu poblogaidd yng Nghymru sy’n cael eu canmol am safon eu dŵr.

Fe gyhoeddodd Cymdeithas Cadwraeth y Môr bod 94 o draethau’r wlad wedi eu cynnwys yn y Good Beach Guide – dau yn fwy na’r llynedd.

Ond mae yna rybudd bod pedwar traeth pwysig mewn peryg o fethu â chyrraedd safonau newydd fydd yn cael eu gosod gan yr Undeb Ewropeaidd yn 2015.

Y rheiny yw Aberdyfi, Y Rhyl, Cemaes Bae Abertawe. Mae 65% o draethau Cymru’n debyg o gyrraedd safon ‘ardderchog’.

Yn ôl y rhestr sy’n cael ei chyhoeddi heddiw, mae nifer y traethau sy’n methu’r prawf dŵr glân yng Nghymru wedi cwympo o 20 i 10, ond mae’r ffigurau yna’n edrych yn well nag ydyn nhw go iawn.

Llai’n methu

Roedd 12 yn llai o draethau wedi cael eu profi y tro yma – yn ystod haf 2009. Yr awgrym yw bod cynghorau’n osgoi methiant trwy beidio â galw traethau’n rhai ymdrochi.

Carthffosiaeth yn gorlifo yw un o’r problemau mwya’, meddai’r Gymdeithas, gyda hafau gwlyb yn ychwanegu at y broblem.

Yng Nghymru, mae dŵr sy’n llifo oddi ar dir amaethyddol hefyd yn broblem, trwy gario gwrtaith a baw anifeiliaid i’r môr.

Trwy wledydd Prydain

Roedd yna gynnydd tebyg mewn dŵr ymdrochi glân trwy wledydd Prydain ond mae’r lefel yn is nag yn ystod hafau sych 2005-6.

Yn ôl y Gymdeithas, mae rhwng 1.3 miliwn a 2.3 miliwn o bobol yn cael anhwylder stumog oherwydd dŵr ymdrochi.

Roedd hefyd yn dweud bod sbwriel yn broblem mewn rhai llefydd – er enghraifft, fe ddaethon nhw o hyd i 12,961 o ‘cotton buds’ ar 397 o draethau.

Llun: Plentyn yn nolfio – o’r adroddiad