Mae dyn wedi cael ei arestio yn ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth gwraig yn Aberdaugleddau.
Daethpwyd o hyd i gorff y fenyw 50 oed nos Fercher mewn tŷ yn Stryd Dartmouth.
Fe gafodd ei theulu wybod erbyn hyn ac mae’r dyn yn y ddalfa ac yn cael ei holi.
Ychydig iawn o fanylion sydd wedi’u cyhoeddi gan Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys enw’r wraig.
Maen nhw’n dal i apelio am dystion sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad – trwy alw’r heddlu yn Hwlffordd, neu trwy gysylltu â Taclo’r Tacle ar 0800 555111,