Mae o leiaf 12 o bobol wedi marw ar ôl i gwch suddo yn yr Amazon ym Mheriw, dywedodd swyddogion heddiw.
Dywedodd yr awdurdodau bod achubwyr yn credu y gallai nifer y meirw godi eto a’r ôl i’r cwch Camila suddo ddoe.
Roedd yna o leiaf 161 o bobol wedi goroesi. Mae timau achub yn ceisio codi’r cwch o wely’r afon ar hyn o bryd.
Dyw hi ddim yn amlwg faint o bobol oedd ar y cwch pan suddodd ond cafodd ei adeiladu i ddal 160 o bobol.
Dywedodd yr awdurdodau bod y cwch wedi gadael dinas Iquitos gyda 146 o deithwyr ond wedi codi mwy ar hyd y daith.