Mae Peter Hain wedi honni fod gan Gymru ddiffyg llais o fewn y Llywodraeth glymbleidiol newydd, am mai ar ddim ond un pwyllgor cabinet mae Ysgrifennydd Gwladol newydd y wlad yn eistedd.
Dywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru wrth bapur newydd y Western Mail ei fod o’n gwybod o’i brofiad ei hun yn y cabinet pa mor “hanfodol” yw pwyllgorau wrth lunio cyfeiriad y Llywodraeth.
“Os nad yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bresennol,” meddai, “ does gan lais Cymru ddim cyfle i gael ei glywed.”
Nid yw Cheryl Gillan yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, nac yn aelod o Bwyllgor Busnes – mae’r ddau bwyllgor yma’n ymdrin â cheisiadau gan y Cynulliad i drosglwyddo grym i Gaerdydd.
Tra ei bod hi ar un pwyllgor, y Pwyllgor Materion Cartref, mae Ysgrifennydd yr Alban, Danny Alexander, yn aelod o wyth pwyllgor.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru fod y Pwyllgor Materion Cartref yn “ymdrin â materion fel diwygio cyfansoddiadol a gwleidyddol”.
Dywedodd hefyd fod Danny Alexander yn aelod o’r pwyllgorau eraill fel ymgynghorydd i’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.