Mae parc dinosoriaid yng Nghymru wedi cynnig model anferth o frontosaurus i unrhyw un sy’n gallu ei gludo i ffwrdd.

Does dim angen y creadur gwddf hir ar y parc dinosoriaid, y mwyaf o’i fath yn Ewrop, sydd wedi rhedeg allan o le.

Mae’r anferthwch yn pwyso dwy dunnell a hanner, yn 30 troedfedd o hyd a 20 troedfedd o uchder, ac wedi costio £20,000.

Cynllun perchnogion Ogofau Dan yr Ogof ger Abertawe yw rhoi model ‘spinosaurus’ yn ei le. Ond mae ganddyn nhw eisoes 220 o ddinosoriaid eraill felly bydd rhaid cael gwared ag un.

“Rydw i’n credu y dylai tad fynd a fo fel syrpreis i fab sy’n hoffi dinosoriaid,” meddai perchennog Dan yr Ogof, Ashford Price.

“Fe alla’i ddychmygu’r dinosor yng ngardd gefn rhywun, os oes gyda nhw ddigon o le. Ond fe allai fynd i ysgol rywle yng Nghymru neu Loegr, neu efallai yn fascot anferth ar gyfer tîm rygbi neu griced.

“Yn anffodus mae o’n rhy fawr i’w roi yn y post felly bydd rhaid iddyn nhw ddod i’w nôl o eu hunain.”

Mae’n debyg bod sawl un eisoes wedi cysylltu yn dangos diddordeb yn y dinosor. Fe fydd Ashford Price yn aros pythefnos cyn penderfynu.

“Fe fydd o’n drist ei weld o’n mynd am mai fo oedd un o’n modelau cyntaf ni,” meddai.