Mae Iran wedi dweud y dylai’r Unol Daleithiau dderbyn cynnig “hanesyddol” i wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad.
Os nad yw’r Tŷ Gwyn yn derbyn y cynllun cyfnewid niwclear, meddai’r Arlywydd Mahmoud Ahamdinejad, bydd y “trywydd tuag at gyfeillgarwch efo Iran yn cael ei gau am byth”.
Cafodd y cynnig ar gyfer cyfnewid deunyddiau niwclear ei drefnu gan Frasil a Thwrci.
Byddai Iran yn anfon wraniwm o gyfansoddiad isel i Dwrci, a derbyn wraniwm o gyfansoddiad uwch flwyddyn yn ddiweddarach gan Ffrainc neu Rwsia, a fyddai’n cael ei ddefnyddio mewn adweithydd meddygol.
Ond mae’r Unol Daleithiau wedi gwrthod y cynllun, gan fynnu ei fod yn “annigonol”, ac nad ydi o’n lleddfu’r ofnau mai nod rhaglen niwclear Iran yw creu arfau atomig, ac nid i gynhyrchu trydan fel y maen nhw’n ei honni.
Daw’r cynnig wrth i bum aelod parhaol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gytuno i osod sancsiynau ar Iran, sy’n gwrthod rhoi’r gorau i gyfoethogi wraniwm.
Bydd angen pleidlais 10 o 15 aelod y Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i osod y sancsiynau, ond mae Twrci a Brasil wedi awgrymu na fyddan nhw’n pleidleisio o blaid.