Mae gan brifysgolion Cymru flwyddyn i roi eu tŷ mewn trefn neu wynebu colli tir, meddai’r Gweinidog Addysg.

Fe rybuddiodd Leighton Andrews y bydd rhagor o sefydliadau’n ymuno ac fe alwodd am ohirio unrhyw doriadau gwario tan y flwyddyn nesa’.

Fe fyddai hynny’n rhoi cyfle i ail drefnu’r sector, meddai wrth Radio Wales y bore yma. Ac roedd angen i benaethiaid y prifysgolion ddangos arweinyddiaeth.

Neithiwr roedd Leighton Andrews wedi ymosod ar rai agweddau o waith y prifysgolion wrth annerch cynulleidfa o academwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe ddywedodd eu bod yn dal i fod yn rhy bell oddi wrth y rhan fwya’ o bobol ac roedd angen iddyn nhw ddangos eu bod yn dilyn strategaeth y Llywodraeth.

Yr awgrym oedd mai’r prifysgolion sy’n gwneud hynny fydd yn cael mwya’ o gefnogaeth ariannol.

‘Angen gwneud rhagor’

Er gwaetha’ peth gwaith ymchwil a gwaith cysylltu “ardderchog”, roedd angen gwneud rhagor, meddai’r Gweinidog. A dim ond blwyddyn o gyfle oedd yna.

“Mae angen i ni weld newid sylfaenol o ran cyflwyno’r gwasanaeth a gweinyddu,” meddai.

Mae gan Lywodraeth y Cynulliad y cyfle i ohirio unrhyw doriadau gwario tan y flwyddyn nesa’ – fe wnaeth Leighton Andrews yn glir ei fod ef yn ffafrio hynny.

Ymhen blwyddyn, fe fydd rhagor o doriadau, meddai, ac fe allai penderfyniadau yn Lloegr ar ffioedd prifysgol arwain at fwy o bwysau ar y sector yng Nghymru.

Llun: Leighton Andrews