Fe gymerodd bowlwyr Morgannwg bedair wiced mewn 12 pelen wrth daro’n ôl yn erbyn Leicestershire.
Gyda’r tîm cartref wedi sgorio 291 yn eu batiad cynta’, fe gafodd batwyr Morgannwg amser caled, gan orffen ar 166 … 125 ar ei hôl hi.
Mark Wallace oedd y prif sgoriwr gyda 36 a dim ond dau arall a gafodd fwy nag 20 wrth i’r batiad chwalu o dan bwysau bowlwyr cyflym y tîm o Gaerlŷr.
Ar un adeg, fe gollodd Morgannwg bedair wiced am 12 rhediad mewn saith pelawd.
Chwalfa
Ond doedd hynny’n ddim wrth chwalfa Leicestershire ar ddechrau eu hail fatiad nhw.
Ar un adeg, roedd y Saeson ar 17 am bedwar ar ôl i’r bowlwyr cyflym James Harris a David Harrison gymryd dwy wiced yr un.
Erbyn y diwedd, roedd y batiad wedi sefydlogi ychydig ar 45 am 5 gan roi’r tîm cartref 170 o rediadau ar y blaen.
Llun: David Harrison – pedair wiced yn y batiad cynta’, dwy eisoes yn yr ail