Dim ond un o arweinwyr protestwyr y Crysau Coch sydd â’i draed yn rhydd, yn ôl adroddiadau.
Mae wyth ohonyn nhw’n gaeth, meddai gwasanaethau newyddion lleol, wedi i ddau ildio’u hunain i’r heddlu heddiw.
Credir bod Arisman Pongruangrong, cyn-ganwr pop ac un o arweinwyr mwyaf radical y protestwyr, wedi dianc i gefn gwlad.
Y brotest
Roedden nhw wedi arwain ymgyrch yn erbyn Llywodraeth Gwlad Thai yn y brifddinas Bangkok, a ddaeth i ben ar ôl brwydro gwaedlyd gyda’r fyddin yr wythnos ddiwethaf.
Dechreuodd y protestio ym mis Ebrill, ac ers hynny, mae 85 o bobol wedi marw drwy wrthdaro rhwng ymgyrchwyr a’r fyddin.
Roedd y Crysau Coch am i’r Llywodraeth gynnal etholiadau seneddol newydd.