Mae’r awdurdodau yn India wedi awgrymu mai gwall dynol a allai fod yn gyfrifol am achosi damwain awyren dros y penwythnos, a laddodd 158 o bobol.

Yn ôl un o Weinidogion y Llywodraeth, Praful Patel, doedd dim byd anarferol am y tywydd nac elfennau eraill cyn y trychineb.

Mae’r gwaith ymchwilio wedi cychwyn ac, yn ôl adroddiadau, mae recordydd llais y peilotiaid, yn ogystal â bocs du’r awyren wedi cael eu darganfod.

Mae tîm fforensig o’r Unol Daleithiau wrthi’n cynorthwyo.


Damwain

Dyma oedd y ddamwain awyren waethaf yn India ers dros ddegawd.

Digwyddodd yn gynnar fore Sadwrn ar gyrion dinas Mangalore.

Roedd yr awyren Air India Boeing 737-800 wedi methu’r llain lanio, sydd ar fynydd, ac wedi taro’r ddaear a chwympo dros ochor clogwyn mewn i geunant.

Dim ond wyth o’r 166 o deithwyr a gweithwyr wnaeth oroesi.