Mae Toulouse wedi ennill Cwpan Heineken am y pedwerydd tro ar ôl curo Biarritz 21-19 yn y Stade de France.

Bu rhaid i Toulouse dibynnu ar gicio’r maswr, David Skrela a’r canolwr Florin Fritz am eu holl bwyntiau.

Fe aeth Biarritz ar y blaen 9-3 ar ôl i Dimitri Yachvili sgorio tair cic gosb gyda Fritz yn taro ‘nôl gydag un i Toulouse.

Toulouse oedd ar y blaen erbyn hanner amser wrth i Skrela lwyddo gyda dwy gic gosb a Fritz yn ychwanegu gôl adlam i sicrhau sgôr 12-9 ar yr egwyl.

Unionodd Yachvili y sgôr wedi’r egwyl gyda chic gosb arall, ond fe sgoriodd Skrela dwy gôl adlam ac un gic gosb i roi Toulouse ar y blaen 21-12.

Sgoriodd Karmichael Hunt gais hwyr i ddod a Biarritz ‘nôl o fewn dau bwynt i Toulouse.

Ond roedd Toulouse yn ddigon cadarn i ddal ‘mlaen i gael eu coroni’n bencampwyr Ewrop.