Mae heddlu sy’n ymchwilio i hunanladdiad honedig bachgen 15 oed yn Lloegr, yn edrych o ddifri’ ar y posibilrwydd ei fod yn cael ei fwlian ar wefan gymdeithasol Facebook.

Fe ddaethpwyd o hyd i Tom Mullaney yn farw yn ei gartre’ yn Bournville, Birmingham, fore Iau.

Ers ei farwolaeth, mae rhai ffrindiau wedi honni mewn teyrngedau ar wefan Facebook, ei fod yn cael ei fwlian ar y safle.

Heddiw, mae heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau nad yw’r farwolaeth yn cael ei hystyried fel un amheus, ond eto, eu bod yn ymchwilio i’r honiadau.

Negeseuon

Yn ôl un ffrind: “Life is the most best gift you can ever get, if you dont have life then your dead… Bullying can hurt people … deeep (sic) down soo deep they wont even now them self, they bullyed (sic) my friend sooo had he commited suicide..”

Ac meddai un arall: “Tom … u were a cheeky smiley little fella … u didn’t deserve any of this.”

Ac un arall eto: “every one is right u ddnt hav to worry about them bad people now they cant get u…”