Mae un o gwmnïau darlledu mwya’ Cymru ar werth ar ôl i’r cyfarwyddwyr benderfynu na a allai fyw trwy ei anawsterau ariannol.
Mae Golwg360 yn deall bod staff Barcud Derwen wedi cael nodyn yn hwyr ddoe’n rhybuddio bod papur newydd ar fin torri’r stori bod y cwmni’n chwilio am brynwyr.
Mae’r grŵp, sy’n cynnig gwasanaethau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu i gwmnïau teledu, wedi cael cefnogaeth tymor byr gan y banciau ond os na fydd prynwr yn dod yn fuan, fe allai gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Cwmni cyfrifwyr Grant Thornton sydd wedi cael y gwaith o geisio gwerthu’r cwmni – yn ystod y dyddiau diwetha’, roedd swyddogion wedi bod o gwmpas ei ganolfannau’n edrych ar werth asedau.
Penodi cyfrifwyr
Yn ôl stori yn y Western Mail, roedd y cyfrifwyr wedi eu penodi yr wythnos ddiwethaf ac maen nhw bellach wedi anfon pecyn o wybodaeth sydd i bob pwrpas yn brospectws gwerthu.
Yn ôl un o brif gyfranddalwyr y cwmni ac un o’i gyn brif swyddogion, roedd hi wedi bod hyn amlwg ers tro bod Barcud Derwen mewn trafferthion.
Ei ganolfan yng Nghaernarfon a’i uned yn y Cynulliad yw’r unig ddau ran o’r grŵp sy’n gwneud elw.
Ond mae llawer o gwmnïau cynhyrchu yn y Gogledd wedi bod yn prynu eu hoffer cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu eu hunain ac mae cytundeb newydd ar gyfer darlledu o’r Cynulliad ar fin cael ei gyhoeddi.
Methu creu ymerodraeth
Yn ôl Iwan Edgar, sydd gyda’i bartner yn berchen ar tua 5% o’r grŵp, ymdrechion i dyfu a “chreu ymerodraeth” oedd wedi mynd o chwith.
Roedd un buddsoddiad mawr yn Iwerddon wedi methu ac un arall mewn offer darlledu allanol wedi ystumio datblygiad y grŵp, meddai.
“Mae’n newyddion trist iawn, ond ro’n i wedi dweud ers tro mai un o’r pethau fyddai ar garreg fedd y cwmni fyddai The Farm, Dulyn.”
Oherwydd y buddsoddiad mawr arall, roedd popeth wedi ei gyfeirio at hwnnw yn hytrach na cheisio datblygu rhannau eraill o’r cwmni, meddai wedyn.
Roedd ymdrechion i gael busnes newydd wedi bod fel “hel mwyar duon ym mis Ionawr” – doedd y busnes ddim ar gael.
Hyd yn hyn, dyw Golwg360 ddim wedi cael gafael ar neb i siarad ar ran y cwmni a dyw hi ddim yn glir eto beth fydd hanes y staff.
Cefndir
Fe gafodd cwmni Barcud ei greu yng Nghaernarfon ar gyfer dechrau S4C yn 1982 – er mwyn cynnig gwasanaeth i gwmnïau bach annibynnol.
Fe ymunodd gyda chwmni tebyg, Derwen, o dde Cymru, yn 1997.
Llun: Rhai o adnoddau Barcudx Derwen (o wefan y cwmni)