Mae un hanner o’r ddeuawd enwog, Tony ac Aloma, wedi dweud ei fod mewn “penbleth” ynglŷn â pha dim y mae am ei weld yn cael ei ddyrchafu i Uwch Gynghrair Lloegr dros y penwythnos.

Yn ôl Tony Jones, yr ateb gorau y gallai gynnig yw y bydd “wedi siomi os bydd Blackpool yn colli, ond yn falch os fydd Caerdydd yn ennill”.

Mae’r Cymro, ynghyd ag Aloma a’i gwr, Roy, wedi bod yn rhedeg gwesty’r Gresham yn Blackpool ers 20 mlynedd.

Peth mawr i Blackpool

“Fel Cymru, mi ddylwn i fod yn cefnogi Caerdydd,” meddai Tony Jones wrth Golwg 360, “ond mae meddwl am dimoedd fel Manchester United a Lerpwl yn dod i Blackpool yn beth mawr.

“Mae angen rhywbeth newydd ar y dref, ac mi fasa buddugoliaeth i Blackpool yn lles i fusnes.

“Mae yna lawer o deuluoedd yn mynd i’r gemau, ac ella y basan nhw isio aros dros nos yn y dre.”