Mae un o gefnogwyr selocaf y Scarlets wedi dweud y bydd yn cefnogi’r Gleision y penwythnos yma.

“Rydw i’n tybio y bydd pob cefnogwr Scarlets yn cefnogi Caerdydd ddydd Sul,” meddai Emyr Wyn, yr actor sy’n chwarae Dai Sgaffalde yn yr opera sebon, Pobol y Cwm.

“Ond mae’n drist ein bod ni’n gorfod dibynnu ar dimoedd eraill.”

Tynged

Mae tynged y Scarlets ar gyfer eu lle yng Nghwpan Heineken flwyddyn nesaf yn nwylo’r Gleision.

Os lwyddith y Gleision i guro Toulon ym Marseille fory, fe fydd y Scarlets drwodd i Gwpan Heineken 2010/11 fel y trydydd rhanbarth, gyda’r Gleision yn ennill eu lle fel buddugwyr Cwpan Amlin.

Ond os y collith y Gleision, yng Nghwpan Amlin fydd y Scarlets yn chwarae, a’r Gleision fydd y trydydd rhanbarth Cymreig i fynd drwodd i Gwpan Heineken.


Cwpan Amlin

Er hyn, dyw Emyr Wyn ddim yn tanbrisio gorfod chwarae yng Nghwpan Amlin.

Mae hyd yn oed yn credu y gallai chwarae yn y gystadleuaeth honno ddenu mwy o dorf yn sgil y timau gwahanol y bydden nhw’n eu herio.

Yr unig siom fyddai colli’r “kudos” o chwarae yn y Cwpan Heineken, meddai.