Mae dau o’r cystadleuwyr amlwg am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi condemnio’r rhyfel yn Irac.
Mewn dau gyfweliad gwahanol gyda dau bapur newydd gwahanol, mae Ed Balls ac Ed Miliband wedi ceisio pellhau oddi wrth y penderfyniad i ymosod yn 2003.
Yn ôl y cyn Ysgrifennydd Ysgolion, Ed Balls, roedd y penderfyniad yn “gamgymeriad” a oedd wedi costio’n ddrud i’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl y cyn Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, roedd wedi arwain at “golli ymddiriedaeth catastroffig” yn y Blaid Lafur.
Yn ôl sylwebyddion, mae datganiadau’r ddau’n dangos eu bod yn ceisio rhoi pellter rhyngddyn nhw â’r prif ymgeiswyr eraill, yn arbennig y ffefryn, y cyn Ysgrifennydd Tramor, David Miliband.
Roedd ef ac ymgeisydd arall, y cyn Ysgrifennydd Iechyd, Andy Burnham, wedi pleidleisio o blaid y rhyfel.
Dadleuon y ddau
Fe ddywedodd Ed Balls wrth y Daily Telegraph na ddylai gwledydd Prydain fod wedi mynd i ryfel “gyda’r wybodaeth oedd ar gael ar y pryd”.
Roedd hi’n gamgymeriad hefyd i newid y rheswm tros y rhyfel, o arfau i gael gwared ar Saddam Hussein, heb gydnabod hynny’n agored.
Doedd Ed Miliband ddim hyd yn oed yn Aelod Seneddol ar y pryd ac fe ddywedodd wrth y Guardian y dylai arolygwyr y Cenhedloedd Unedig fod wedi cael mwy o amser i chwilio am arfau dinistr.
Llun: Milwyr yn Irac