Mae ofnau fod mwy na 160 o bobol wedi marw mewn damwain awyren yn ne India.

Dim ond chwech neu saith o’r 169 o deithwyr sy’n debyg o fod yn fyw ar ôl i awyren Boeing 737 o Dubai fethu â stopio cyn diwedd y llain glanio ym maes awyr Mangalore.

Roedd lluniau teledu’n dangos diffoddwyr yn ymladd fflamau a mwg yn y gweddillion wrth geisio dod o hyd i unrhyw un oedd yn fyw. Fe fuon nhw’n chwistrellu ewyn tros y gweddillion.

Fe redodd un diffoddwr i fyny llethr oddi wrth yr awyren gyda phlentyn bach yn ei freichiau.

Mae glaw trwm yn gwneud y broses achub yn fwy anodd a’r gred yw bod y tywydd wedi cyfrannu at y ddamwain tua 6.30 y bore yn amser India.

Mae’r maes awyr ar dir uchel a dyffryn yn union y tu hwnt i’r llain glanio.

Yn ôl swyddog heddlu, mae chwech o bobol wedi cael eu cymryd i ysbytai lleol ac mae’r rheiny’n debyg o oroesi.

Llun: Achubwyr yn ceisio diffodd y fflamau (AP Photo)