Mae Undeb myfyrwyr Cymraeg Caerdydd wedi datgan eu bod wedi ‘newid trywydd’ yr ymgyrch gan benderfynu ceisio “cydweithio gyda’r Undeb Saesneg” – yn hytrach na sefydlu undeb ar wahân i fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd.

Yn sgil hyn, mae’r Undeb yn edrych i gael swyddog Sabothol Cyflogedig i faterion Cymraeg yn ogystal â chael cyfieithydd i’r Brifysgol.

Yn ôl yr Undeb Myfyrwyr Cymraeg, mae ganddyn nhw “dystiolaeth” i ddangos i’r Undeb fod “angen swyddog Sabothol.”

Maen nhw’n annog myfyrwyr ac aelodau’r grŵp i rannu unrhyw broblemau maen nhw wedi’i gael ynglŷn â materion Cymraeg yn y gorffennol drwy e-bostio’r pwyllgor.

Eisoes, roedd Cynan Llwyd Cadeirydd yr Undeb wedi dweud wrth Golwg360 ar ôl cyfarfod cyntaf Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, 21 Ebrill, fod Llywydd yr Undeb “yn ein cefnogi – er nad oedden ni’n cytuno o reidrwydd ar y camau nesaf”.