Dylai Gogledd Corea wynebu canlyniadau rhyngwladol os mai’r wlad sy’n gyfrifol am suddo llong ryfel De Corea. Dyna farn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton.

Fe fu hi’n siarad heddiw yn Tokyo, cyn mynd ar ymweliad â dinasoedd Beijing a Seoul, cyn cadarnhau bod America, Japan, De Corea a China yn trafod sut i ymateb i’r sefyllfa.

Fe gadarnhaodd fod adroddiad annibynnol yn dweud i Ogledd Corea danio torpedo a suddo llong y Cheonan ar Fawrth 26 eleni, ac na allai neb gymryd arnyn nhw nad oedd dim byd wedi digwydd.

Tystiolaeth

“Mae’r dystiolaeth yn gondemniol ac yn llethol,” meddai Hillary Clinton. “Fe ddaeth y torpedo a suddodd y Cheonan … o long danfor Gogledd Corea.”

Mae Gogledd Corea’n dal i sôn fod cymylau rhyfel yn hofran dros y De a’r Gogledd ar hyn o bryd, ac maen nhw’n awyddus i anfon eu tim ymchwil eu hunain i’r ardal.

Mae Arlywydd De Corea, Lee Myung-bak, wedi galw’r ymosodiad yn “bryfocio”, ac mae’n honni ei fod yn torri siarter y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal ag amodau cadoediad rhyfel Corea 1950-53.