Mae gwyddonydd o’r Unol Daleithiau wedi gwadu honiadau ei fod yn “chwarae Duw,” ar ôl iddo ddefnyddio genynnau i roi bywyd i facteriwm.
Fe lwyddodd Dr Craig Venter i greu’r gell synthetig ar ôl 15 mlynedd o waith.
Credir y gallai ei lwyddiant arwain at ddatblygiadau mawr ym maes geneteg, sy’n cynnwys datblygu organeb artiffisial ar gyfer dibenion megis creu brechiadau, neu lanhau llygredd.
Ond mae rhybudd am beryglon y datblygiad, gan y gallai cynnyrch synthetig o’r fath, arwain at greu arfau biolegol.
Yn siarad ar raglen Newsnight neithiwr, gwadodd Dr Venter ei fod yn chwarae Duw, gan ddweud fod hynna’n gyhuddiad sy’n cael ei ddefnyddio bob tro y bydd darganfyddiad newydd ym maes bioleg.
Dyma’r cam nesaf yn ein dealltwriaeth, meddai, a allai efallai arwain tuag at gael ei ddefnyddio er lles dynoliaeth.
Mae yn gynnydd bach yn y peryg rhag terfysgaeth fiolegol yn sgil ei ddarganfyddiad, cyfaddefodd, ond mae’r lles i ddynoliaeth yn llawer mwy.