Rhiannon Michael sy’n edrych ar ad-drefnu addysg yn y brifddinas…

Mae wedi dod i’r amlwg bod y Gweinidog Addysg wedi penderfynu trosglwyddo’r penderfyniad dros ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Treganna Caerdydd i ddwylo’r Prif Weinidog. Ers pedair blynedd mae Ysgol Treganna wedi ei rhannu’n ddwy wrth ddisgwyl adeilad mwy. Mae dosbarthiadau cychwynnol wedi eu hagor yn Grangetown i ddelio â’r gorlif o Dreganna dan yr enw Ysgol Tan yr Eos. Mae’r dosbarthiadau hynny bellach hefyd yn orlawn.

Mae’r penderfyniad dros beth i wneud yn yr ardal gyda’r Gweinidog Addysg ers Awst y llynedd. Ar waethaf protestiadau a sylw yn y wasg dyw Leighton Andrews ddim wedi gwneud penderfyniad.

Mewn ymateb ysgrifenedig i gwestiwn gan Nerys Evans AC, dywedodd y Gweinidog ar Fai 19:

Y Prif Weinidog fydd yn penderfynu ar gynigion sy’n ymwneud â chau Ysgol Gynradd Lansdowne ac Ysgol Tan yr Eos, trosglwyddo, ehangu ac ymestyn ystod oedran Ysgol Treganna, ac ehangu ac ymestyn ystod oedran Ysgol Gynradd Radnor.

Nid yw’n bosibl i mi ddweud pryd y gallai’r penderfyniadau gael eu gwneud ar y materion hyn. Dim ond pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi’i chasglu a’i hasesu ac y caiff casgliadau cadarn eu llunio y caiff penderfyniadau eu gwneud.”

Y rheswm dros drosglwyddo’r mater i’r Prif Weinidog yn ôl llefarydd ar ran yr adran addysg yw na fyddai hi’n addas i Leighton Andrews wneud y penderfyniad gan fod wedi anfon ei blant i Ysgol Treganna. Mae’r plant hynny yn oedolion bellach. Roedd Leighton Andrews yn gwybod bod rhaid iddo wneud penderfyniad ar Dreganna pan ddaeth yn Weinidog Addysg. Wrth reswm, roedd yn gwybod bod ei blant wedi cael eu haddysg yn Ysgol Treganna hefyd. Pam felly aros chwe mis i ddweud na allai wneud y penderfyniad?