“Anghofiwch am Benwythnos Mawr Radio 1” yw neges trefnwyr Eisteddfod y Dysgwyr yng ngogledd Cymru heddiw.
Heno, fe fydd Eisteddfod y Dysgwyr yn cael ei chynnal yn Neuadd Hendre, Tal y Bont, Bangor.
Mae’r Eisteddfod wedi’i threfnu gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, gyda’r bwriad o gynnig “cyfle am brofiad eisteddfodol” i ddysgwyr.
Yn ôl trefnwyr, mae’r ymateb wedi bod yn “wych”.
Môn, Gwynedd a Chonwy
“Mae Eisteddfod ar gyfer dysgwyr yn y gogledd ddwyrain wedi bod yn cael ei chynnal ers blynyddoedd. Felly, doedden ni ddim am weld dysgwyr Môn, Gwynedd a Chonwy yn colli allan ar gyfle mor werthfawr,” meddai Siwan Hywel.
Mae amrywiaeth o gystadlaethau yn yr Eisteddfod o adrodd, canu a chwarae offerynnau i jôcs Cymraeg.
Fe ddywedodd trefnwyr fod enwau wedi bod yn “llifo i mewn ers wythnosau bellach”. Bydd deg parti llefaru a deg parti canu wedi cadarnhau y byddan nhw’n cymryd rhan, yn ogystal â degau o unigolion.