Fe fydd aelodau a chyn-aelodau Ysgol berfformio Glanaethwy yn rhyddhau dwy CD newydd.
Yr wythnos nesaf, bydd recordiau Sain yn rhyddhau’r cryno ddisgiau newydd – Rhapsodi Glanaethwy & Da Capo ac Ymlaen â’r gân gan y côr iau.
Mae’r ysgol wedi bod yn brysur ers eu llwyddiant yn y gystadleuaeth boblogaidd Last Choir Standing ac wedi recordio cyfres o chwe rhaglen i S4C yn ddiweddar.
Mae llawer o ganeuon y gyfres honno wedi’u recordio ar y cryno ddisgiau newydd.
Taith i China
Mae cyhoeddi’r ddwy CD newydd yma yn gychwyn ar gyfnod cyffrous iawn i’r ysgol gyda nifer o brosiectau mawr ar y gweill yn y dyfodol agos.
“Bydd y côr hŷn yn mynd ar daith i China ym mis Gorffennaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd Corawl,” meddai Cefin Roberts, sy’n arwain y corau ar y cyd â’i wraig, Rhian.
“Bydd rhyw 60 o wledydd y byd yn cystadlu yno, a bydd yn fraint aruthrol i ni gynrychioli Cymru ymysg goreuon y byd.
“Hefyd, ein gobaith ydi datblygu sioe fyw, a chreu rhywbeth newydd i’r byd adloniant ysgafn yng Nghymru.”