Mae grŵp o 50 o fyfyrwyr o Brifysgol Bangor wedi bod yn glanhau traeth yng ngogledd Cymru – ac wedi cael tocynnau i Benwythnos Mawr Radio 1 am eu trafferth.
Roedd Aled Haydn Jones, cynhyrchydd sioe fore Chris Moyles, hyd yn oed wedi rhoi help llaw i’r stiwdants.
Roedd y ‘Radio 1 Big Beach Clean’ yn fenter i geisio annog gwirfoddoli.
“Hwyl”
“Dw i wedi glanhau traethau o’r blaen, ac mae’n lot o hwyl ac yn ffordd dda i ddod i adnabod pobol. Roedd ennill tocynnau i’r Penwythnos Mawr hefyd yn grêt!” meddai Kylie Marie Thomas o Ddolgellau, a oedd yn rhan o’r criw.
Fe dreuliodd y grŵp dair awr yn hel sbwriel ym Mhorth Neigwl ger Abersoch.
Yna, fe aethant ati i greu cerfluniau o’r sbwriel mewn cystadleuaeth gelf a chafodd yr enillwyr wobr o docynnau VIP i’r ‘Live Lounge’ yn ystod Penwythnos Mawr.
Gweld Cheryl Cole
“Yn fwy na dim, dw i’n edrych ymlaen at weld Cheryl Cole,” meddai Elfyn Roberts o’r Bala, Myfyriwr gwyddorau Chwaraeon trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wrth Golwg360.
“Mi wnes i fwynhau’r profiad, er nad o’n i wedi gwneud llawer o waith gwirfoddoli o’r blaen. Mi fydda’ i’n gwneud eto rŵan, yng ngwyl Wakestock.”